Cwestiynau Cyffredin am Gynnyrch Data Cwmni
Pam mae Tŷ’r Cwmnïau wedi datblygu cynnyrch di-dâl?
- Mae Tŷ’r Cwmnïau bellach yn rhan o’r Grŵp Data Cyhoeddus (gyda’r Swyddfa Dywydd, yr Arolwg Ordnans a’r Gofrestrfa Tir). Cafodd y grŵp ei sefydlu i gynyddu, cymaint ag sy’n bosibl, werth y data a gedwir gan y sefydliadau sy’n aelodau ohono, i’r budd economaidd a chymdeithasol hirdymor. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod amrywiaeth o setiau data craidd ar gael yn ddi-dâl.
- Mae’r nodau hyn yn cyd-fynd yn dda gyda strategaeth bresennol Tŷ’r Cwmnïau, sef sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael am ddim lle bo’n bosibl.
- Mae’r cynnyrch hwn yn cyflawni’r amcanion hynny, gan sicrhau bod gwybodaeth graidd am gwmnïau ar gael yn ddi-dâl.
Pa wybodaeth fydd wedi’i chynnwys yn y cynnyrch?
- Bydd y wybodaeth a fydd ar gael yn cynnwys; rhif y cwmni, ei gyfeiriad, statws, dyddiad corffori, dyddiadau cyfrifon a ffeilio ffurflenni blynyddol, cod SIC, Dynodwyr Adnoddau Unigryw (URI) a gwybodaeth sylfaenol am arwystlon morgais.
- Bydd dolen ar y sgrin o’r enw ‘PDF’ yn dangos disgrifiad o’r data yn y ffeiliau
Defnyddio rhaglen Microsoft Excel 2003 a’i chyfyngiadau
- Rydym yn argymell defnyddio rhaglen Microsoft Excel 2007 neu ddiweddarach. Mae gan Excel 2003 derfyn uchaf ar nifer y rhesi i bob taflen waith ac mae ein ffeiliau’n cynnwys llawer mwy o resi na hynny, felly byddai’n agor taflen waith ac ynddi ddim ond y 65,000 rhes gyntaf yn y ffeil ac yn dangos neges gwall 'File not loaded completely'.
- Mae yna ffyrdd osgoi ar gyfer hyn, sy’n golygu defnyddio macro Visual Basic ond efallai y bydd yn haws i chi rannu’r ffeil eich hun yn gyfres o ffeiliau llai (pob un yn 65,000 o resi neu lai) fel y gall Excel 2003 eu hagor yn hawdd ac mae yna holltwyr CSV sy’n gwneud hyn ar gael yn rhwydd ar y rhyngrwyd.
- Neu gallech fewnforio’r ffeil i MS Access 2003 (neu ddiweddarach) os yw hynny ar gael i chi, gan fod gan honno derfyn rhesi uwch.
Maint ffeiliau
- Dangosir maint y ffeiliau fel rhan o enwau’r ffeiliau ar y sgrin.
Ym mha drefn ddylwn i lawrlwytho’r ffeiliau?
- Mae’r data yn y ffeiliau yn nhrefn y wyddor wedi’i seilio ar Enw’r Cwmni ond gellir ei lawrlwytho mewn unrhyw drefn
Amser i lawrlwytho?
- Cyflymder cyfartalog band eang yn y Deyrnas Unedig yw 7.6Mbps (ffynhonnell: Ofcom, Tachwedd 2011), felly gall pob ffeil gymryd hyd at nifer o funudau i lawrlwytho
Pam mae’r lawrlwythiad ar fformat CSV?
- Er mwyn cadw pethau mor syml ag sy’n bosibl a sicrhau’r cytunedd ehangaf posibl, rydym wedi darparu’r ffeil ar fformat CSV (comma separated value) y mae meddalwedd sydd ar gael yn gyffredin (fel MS Excel) yn gallu ei fewnforio’n awtomatig. Mae hefyd modd i bobl ei ddarllen.
Cynnyrch Data Cwmni Am Ddim
|