Symudodd wefan Ty'r Cwmnïau i
gov.uk/companieshouse ar 10 Rhagfyr 2014

Efallai bydd cynnwys archif hwn yn ddi-rym.
Efallai ni fydd dolenni, ffurflenni, chwiliad a chyflawniadau eraill yn gweithio.

 


Telerau ac Amodau

Ymwadiad

Ni fwriedir i’r wybodaeth ar y wefan hon fod yn hollol gynhwysfawr a hepgorwyd llawer o’r manylion sy’n berthnasol i amgylchiadau penodedig. Am hynny, ni ddylid ystyried bod y wefan yn ffynhonnell gyflawn o ran y gyfraith cwmnïau a gwybodaeth, ac rydym yn cynghori darllenwyr i ofyn am gyngor proffesiynol annibynnol cyn gweithredu ar unrhyw beth a geir yma. Ni all Tŷ’r Cwmnïau gymryd unrhyw gyfrifoldeb am oblygiadau unrhyw wallau neu hepgoriadau.

Nodiadau ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau Chwilio am Gwmni a Chwilio am Gyfarwyddwyr a Waharddwyd

Daw’r wybodaeth sydd ar gael yma o’r Gofrestr Cwmnïau/Cofrestr o Gyfarwyddwyr a Waharddwyd sy’n cael eu diweddaru’n gyson. Mae hyn yn golygu y gall gwallau’n codi o bryd i’w gilydd a byddwn yn cywiro’r rhain cyn gynted ag y byddant yn dod i’n sylw. Os gwelwch chi rhywbeth a allai fod yn wallus, dywedwch wrthym er mwyn ein galluogi i gywiro’r gronfa ddata os oes angen.

Gwybodaeth am Gwmnïau a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau

Cofrestrfa o wybodaeth am gwmnïau yw Tŷ’r Cwmnïau. Rydyn ni’n cyflawni archwiliadau sylfaenol er mwyn sicrhau bod y dogfennau a gyflwynir yn gyflawn a bod llofnod arnynt, ond nid oes gennym y pŵer statudol na’r gallu i ddilysu pa mor gywir yw’r wybodaeth y mae cwmnïau’n ei hanfon atom. Rydyn ni’n derbyn yr holl wybodaeth y mae cwmnïau’n ei chyflwyno i ni yn ddidwyll ac yn ei gosod ar y cofnod cyhoeddus. Nid yw’r ffaith bod y wybodaeth wedi cael ei gosod ar y cofnod cyhoeddus yn golygu bod Tŷ’r Cwmnïau wedi ei gwirio na’i dilysu mewn unrhyw ffordd.

Archwiliadau sylfaenol yn unig a wna Tŷ’r Cwmnïau wrth archwilio cyfrifon. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y cyflwynwyd y dogfennau priodol, eu bod ar gyfer y flwyddyn ariannol briodol a’u bod wedi cael eu llofnodi. Os ceir cwyn yn ddiweddarach am nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â’r Deddfau Cwmnïau mewn unrhyw ffordd, mae dyletswydd arnom i dynnu sylw’r cwmni at hyn, ac i ofyn am set o gyfrifon diwygiedig sy’n cydymffurfio â’r gofynion os yw hynny’n briodol.

Dolenni i wefannau allanol

Ein polisi yw cael caniatâd cyn cysylltu â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn na’u dibynadwyedd. Nid yw’r ffaith iddynt gael eu rhestru gyfystyr ag ardystiad o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser, ac nid oes unrhyw reolaeth gennym o ran argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Preifatrwydd a Chwcis

Gwybodaeth wedi’i chasglu ar ran CThEM

Bydd Tŷ’r Cwmnïau trwy’r Gwasanaeth Cofrestru ar y Cyd yn gweithredu fel asiantau i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac yn darparu gwasanaeth dewisol; trwy’r gwasanaeth hwn, pan fydd person yn cofrestru cwmni newydd, cynigir cyfleuster fel y gall y person hwnnw hefyd gofrestru’r cwmni ar gyfer Treth Gorfforaethol.  Unwaith y bydd corfforiad yn Nhŷ’r Cwmnïau wedi cael ei dderbyn, caiff y wybodaeth am Dreth Gorfforaethol ei hanfon at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac ni chaiff ei chadw gan Dŷ’r Cwmnïau.

Gwybodaeth bersonol

Nid yw gwefan Asiantaeth Weithredol Tŷ’r Cwmnïau yn cadw nac yn cipio gwybodaeth bersonol. Y cyfan a wnaiff yw cadw cofnod o gyfeiriad IP y defnyddiwr (IP = Internet Protocol: safon sy’n hwyluso trosglwyddo data rhwng dwy ddyfais) a gaiff ei gydnabod yn awtomatig gan wasanaethydd y we.

Os byddwch yn cofrestru i dderbyn diweddariadau, neu’n archebu neu’n prynu defnyddiau, fe gaiff eich manylion eu cadw ar wasanaethydd diogel ac ni rennir y data ag unrhyw gyrff y tu allan i’r llywodraeth. Cânt eu defnyddio yn unig i ddarparu unrhyw gynhyrchion electronig a archebwyd gennych, ynghyd â diweddariadau drwy e-bost ar y pynciau y buoch yn holi yn eu cylch neu wybodaeth drwy’r post os gofynnwch am y gwasanaeth hwnnw. Os ymatebwch ar-lein i ymarferiad ymgynghori, caiff eich manylion eu defnyddio yn unig i hwyluso dadansoddi’r ymatebion.

Dim ond ein gwefan yn www.tyrcwmniau.gov.uk neu www.companieshouse.gov.uk  ac is-safleoedd o dan y parth hwn y mae’r datganiad preifatrwydd presennol yn eu cwmpasu. Nid yw’r datganiad yn gymwys i safleoedd eraill y cysylltir â nhw o’r parth hwn.

Gall Asiantaeth Weithredol Tŷ’r Cwmnïau ddefnyddio’r wybodaeth a gedwir ganddi i atal a chanfod twyll. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth o’r fath, at yr un diben, â chyrff eraill sy’n trin cronfeydd cyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Chanolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar +44 (0)303 1234 500 neu e-bost enquiries@companies-house.gov.uk

Manteisio’n dderbyniol ar Gronfeydd Data Chwiliadwy Ty’r Cwmnïau

Lluniwyd cronfeydd data chwiliadwy Ty’r Cwmnïau i ddiwallu anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr sydd am gyrchu’n gwybodaeth ar-lein.

Oherwydd cyfyngiadau’r offer a lled y band, ni fwriedir iddynt fod yn ffynhonnell ar gyfer swmp-ddadlwytho.

Gellir gwarafun cysylltiad â’r gwasanaethau hyn, yn ddirybudd, i unigolion, cwmnïau, cyfeiriadau IP neu flociau o gyfeiriadau IP sy’n gwadu neu’n diraddio gwasanaeth i eraill drwy greu niferoedd anarferol o uchel o gyrchiadau cronfa-ddata beunyddiol, a hynny naill ai â llaw neu drwy ddull awtomataidd.

Brig
Ein polisi ar gwcis