#events, #library, #careers, #stats, #directors, #steering, #board, #procurement, #fraud, #statistics, #surveys {display:none;}

Symudodd wefan Ty'r Cwmnïau i
gov.uk/companieshouse ar 10 Rhagfyr 2014

Efallai bydd cynnwys archif hwn yn ddi-rym.
Efallai ni fydd dolenni, ffurflenni, chwiliad a chyflawniadau eraill yn gweithio.

 

Tŷ’r Cwmnïau'n lansio Dynodwyr Adnodd Unffurf

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi datblygu gwasanaeth newydd i gyflenwi manylion sylfaenol am gwmnïau, gan ddefnyddio Dynodydd Adnodd Unffurf (URI) syml ar gyfer pob cwmni ar ein cofrestr. Cyfeiriad gwe unigryw sy’n cynrychioli'r cwmni (gan ddefnyddio'r parth 'business.data.gov.uk') yw'r URI; a bydd yn rhoi manylion sylfaenol ar gyfer y cwmni hwnnw.

Mae datblygu Dynodwyr Adnodd Unffurf ar gyfer cwmnïau'n gyson ag agenda eglurder y llywodraeth o'i gwneud yn haws i gael data cyhoeddus; a bydd yn cynnig ffordd fwy effeithlon o gysylltu data i ddefnyddwyr a'r diwydiant gwybodaeth fusnes.

I gael mwy o wybodaeth am y ffordd mae Dynodwyr Adnoddau Unigryw (URI) Tŷ’r Cwmnïau yn gweithio gweler http://www.w3.org/TR/cooluris/#r303gendocument, yn arbennig Adran 4.2

Pa fformatau gaiff eu cynnal?

Mae chwe fformat yn cael eu cynnal ar gyfer Dynodwyr Adnodd Unffurf cwmnïau:

RDF, JSON, XML, CSV, YAML ac HTML.

Sut ydw i'n gofyn am wybodaeth trwy Ddynodydd Adnodd Unffurf?

Bydd angen i chi ddefnyddio'r rhif cwmni priodol yn strwythur yr URI:

http://business.data.gov.uk/id/company/{companynumber}

Er enghraifft, byddai cwmni rhif 02050399 yn cael ei gynrychioli fel hyn:

http://business.data.gov.uk/id/company/02050399

Pa ddata gaiff eu rhoi ar gyfer Dynodwyr Adnodd Unffurf?

Caiff data eu dychwelyd yn y fformat sy’n briodol i’r system sy’n gofyn amdanynt, gan ddefnyddio cyd-drafod cynnwys (gweler http://www.w3.org/TR/cooluris/#r303gendocument )

Dim ond manylion sylfaenol am y cwmni, megis: enw'r cwmni, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig, statws y cwmni, dyddiad corffori, gwlad ei darddiad, math o gwmni, natur y busnes (SIC), dyddiad cyfeirnod cyfrifyddu, dyddiad ffeilio'r cyfrifon/ffurflen flynyddol ddiwethaf, dyddiad mae'r cyfrifon/ffurflen flynyddol nesaf yn ddyledus, enwau blaenorol.

Beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau eraill rwy'n eu cael oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau?

Nid oes unrhyw newidiadau i unrhyw un o'r gwasanaethau eraill a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau. Bydd y rhain yn parhau i gal eu darparu yn yr un fformat. Cyfleuster ar wahân yw'r URI.

Mwy o fanylion am Ddynodwyr Adnodd Unffurf a rhestr o'r wybodaeth am gwmnïau a roddir (Saesneg yn unig) (PDF 393kb)
Brig
Ein polisi ar gwcis