Ty�r Cwmn�au

 

 

Ein polisi ar gwcis

Pan rydym yn darparu gwasanaethau, rydym eisiau eu gwneud yn hawdd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Lle mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi ar y rhyngrwyd, weithiau mae hyn yn golygu gosod darnau bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Yn y rhain ceir ffeiliau bach a elwir cwcis. Ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol.

Beth yw cwcis?

Ffeiliau testun bychain y mae gwefannau yn eu cadw ar eich cyfrifiadur yw cwcis. Nid yw’r cwcis y mae gwefannau’r llywodraeth yn eu defnyddio’n casglu unrhyw fanylion personol, ac ni allwn eu defnyddio i ganfod pwy ydych chi.

Defnyddir y darnau o wybodaeth sy’n cael eu casglu i wella gwasanaethau ar eich cyfer, er enghraifft, trwy:  

  • gofio gosodiadau, fel nad oes angen i chi eu cofnodi eto bob tro y byddwch chi’n mynd i dudalen newydd
  • cofio gwybodaeth rydych chi wedi ei chofnodi eisoes (e.e. eich cod post) fel nad oes angen i chi ei chofnodi dro ar ôl tro
  • pwyso a mesur sut rydych chi’n defnyddio’r wefan fel y gallwn ni sicrhau ei bod yn diwallu eich anghenion

I ddysgu rhagor am cwcis a sut i’w rheoli, ewch i AboutCookies.org. Mae fideos ymwybyddiaeth am gwcis ar gael yn Saesneg hefyd (isod)

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis

Mae’r rhestr isod yn dangos yr holl gwcis sy’n cael eu gosod gan y wefan hon, a’r gwasanaethau trydydd parti rydyn ni’n eu defnyddio. Os oes unrhyw ymholiadau gennych am y cwcis hyn neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth amdanynt, croeso i chi gysylltu â ni.

Cwcis parti cyntaf (y cwcis rydyn ni’n eu gosod)

Y wefan hon sy’n gosod y cwcis yma. Mae rhai yn rhan annatod o weithrediad y wefan, mae eraill yn darparu gwybodaeth i ni ei dadansoddi at ddibenion monitro a gwella’r wefan. Nid yw’r cwcis parti cyntaf hyn yn storio nac yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol nac unrhyw fanylion sy’n golygu bod modd i ni eich adnabod chi’n bersonol. Ar y cyfan, mae’r cwcis yn cynhyrchu rhif unigryw ar hap er mwyn storio gwybodaeth am y defnyddiwr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y ffordd rydym yn defnyddio cwcis, anfonwch neges e-bost at enquiries@companies-house.gov.uk.

Cwcis parti cyntaf (y cwcis rydyn ni’n eu gosod)
Enw’r cwci Math o gwci Cyfnod dod i ben Rheswm dros ddefnyddio’r cwci Disgrifiad
chcookie Cwci parhaus 2 fis Dadansoddeg Fe’i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn defnyddio ein gwefan a’n gwasanaethau, trwy ddadansoddeg we
_pk_id.1.fc5d Cwci parhaus 2 flynedd Dadansoddeg Fe’i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn defnyddio ein gwefan a’n gwasanaethau, trwy ddadansoddeg we
_pk_ses.1.fc5d Cwci sesiwn   Dadansoddeg Fe’i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn defnyddio ein gwefan a’n gwasanaethau, trwy ddadansoddeg we
ch_session Cwci sesiwn Ar ddiwedd sesiwn Yn gwbl angenrheidiol Fe'i defnyddir i reoli'r eitemau wedi'u storio yn eich basged siopa neu eich cynnydd drwy drafodion ffeilio
PIWIK_SESSID Cwci sesiwn   Dadansoddeg Fe’i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn defnyddio ein gwefan a’n gwasanaethau, trwy ddadansoddeg we
transaction Cwci parhaus 1 diwrnod Eich ymweliad Mae WebFiling yn defnyddio cwci sy’n cofio pa wasanaeth yn WebFiling oedd yn cael ei ddefnyddio rhag ofn i sesiwn ddod i’w therfyn amser
chwebcheck Cwci parhaus 1 flwyddyn Eich ymweliad Mae WebCHeck yn defnyddio cwci sy’n cofio’r defnyddiwr ar gyfer ymweliadau wedi hynny. Rhoddir y dewis i’r defnyddiwr i ddatgan ei fod yn caniatáu hyn wrth fewngofnodi

Cwcis trydydd parti (cwcis sy’n cael eu gosod gan wefannau eraill trwy’r wefan hon)

Rydyn ni am ddarparu cynnwys diddorol a deniadol ar ein gwefan. Ar nifer o’r tudalennau rydyn ni’n defnyddio ‘ategion’ neu gyfryngau wedi eu mewnblannu . Er enghraifft, rydyn ni’n mewnblannu fideos YouTube a Google Maps yn llawer o’n tudalennau. Gall cyflenwyr y gwasanaethau hyn osod cwcis ar eich peiriant hefyd pan ewch chi i’r tudalennau lle’r ydyn ni wedi defnyddio cynnwys o’r math hwn. Cwcis ‘trydydd parti’ yw’r rhain

Cwcis trydydd parti (cwcis sy’n cael eu gosod gan wefannau eraill trwy’r wefan hon)
Enw’r cwci Math o gwci Cyfnod dod i ben Rheswm dros ddefnyddio’r cwci Disgrifiad
NID Cwci parhaus 6 mis Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan Google Maps pan ydych chi’n mynd i unrhyw un o’n tudalennau ac arni Google Map planedig
PREF Cwci parhaus 2 flynedd Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan Google Maps pan ydych chi’n mynd i unrhyw un o’n tudalennau ac arni Google Map planedig
testcookie Cwci sesiwn Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan Google Maps pan ydych chi’n mynd i unrhyw un o’n tudalennau ac arni Google Map planedig
khcookie Cwci sesiwn Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan Google Maps pan ydych chi’n mynd i unrhyw un o’n tudalennau ac arni Google Map planedig
SNID Cwci parhaus 6 mis Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan Google Maps pan ydych chi’n mynd i unrhyw un o’n tudalennau ac arni Google Map planedig
original_referer Cwci parhaus Eich ymweliad Gosodir y cwci hwn gan Twitter pan ydych chi’n llwytho unrhyw un o’n tudalennau ni ac arni restr o’r "Negeseuon Trydar Diweddaraf"
_twitter_sess Cwci sesiwn Rhwydweithio cymdeithasol Gosodir y cwci hwn gan Twitter pan ydych chi’n llwytho unrhyw un o’n tudalennau ni ac arni restr o’r "Negeseuon Trydar Diweddaraf"
guest_id Cwci parhaus 2 flynedd Rhwydweithio cymdeithasol Gosodir y cwci hwn gan Twitter pan ydych chi’n llwytho unrhyw un o’n tudalennau ni ac arni restr o’r "Negeseuon Trydar Diweddaraf"
k Cwci parhaus 1 wythnos Rhwydweithio cymdeithasol Gosodir y cwci hwn gan Twitter pan ydych chi’n llwytho unrhyw un o’n tudalennau ni ac arni restr o’r "Negeseuon Trydar Diweddaraf"
pid Cwci parhaus 2 flynedd Perfformiad / Rhwydweithio Gosodir y cwci hwn gan Twitter pan ydych chi’n llwytho unrhyw un o’n tudalennau ni ac arni restr o’r "Negeseuon Trydar Diweddaraf"
PREF Cwci parhaus 10 mlynedd Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan YouTube pan ydych chi’n llwytho fideo planedig ar un o’n tudalennau
VISITOR_INFO1_LIVE Cwci parhaus 240 o ddyddiau Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan YouTube pan ydych chi’n llwytho fideo planedig ar un o’n tudalennau
use_hitbox Cwci sesiwn Cyfryngau Gosodir y cwci hwn gan YouTube pan ydych chi’n llwytho fideo planedig ar un o’n tudalennau

Basged siopa / rhannau trafodion
Mae yna rai rhannau o’n safle sy’n defnyddio technoleg basged siopa neu ffurflenni sydd, ar adegau, yn gorfod defnyddio cwcis – mae’r rhai a ddefnyddir yn barhaus wedi’u rhestru yn y tabl cwcis. O dro i dro mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu swyddogaethau i’n safle e.e. arolygon, cymariaethau ac ati, ac yn aml mae’r rhain yn dod oddi wrth drydydd partïon – byddwn yn ceisio sicrhau y rhoddir datgeliad llawn o unrhyw gwcis.

Rhannau o’r safle sydd angen mewngofnodi
Gan dderbyn y defnydd o swyddogaeth mewngofnodi, yn ddieithriad, rhaid i chi gytuno’n benodol â gosod cwcis penodol, sy’n caniatáu i’r rhan hon weithredu. Mae’r cwcis a ddefnyddir ar gyfer rhannau diogel yn cael eu darparu o fewn y telerau ac amodau defnydd ar gyfer y rhan briodol

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fyddwn ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth a all ddatgelu pwy ydych chi Ond, os ydych chi am rwystro neu gyfyngu ar y cwcis y mae ein gwefannau’n eu gosod, neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn trwy osodiadau eich porwr. Dylai’r swyddogaeth ‘Help’ yn eich porwr ddangos sut i wneud hyn.

Fel arall, gallwch fynd i’r wefan About Cookies, sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i fynd ati i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr. Mae’r wefan Saesneg hon yn dangos sut i fynd ati i ddileu cwcis o’ch peiriant ac yn cynnig gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis hefyd.

Dylech fod yn ymwybodol y gall cyfyngu ar y cwcis effeithio ar weithrediad ein gwefan.

Os hoffech chi weld eich cod cwci, y cyfan sydd angen ei wneud yw clicio ar y cwci i’w agor. Fe welwch chi gadwyn fer o destun a rhifau. Y rhifau yw’ch cerdyn adnabod, a dim ond y prif gyfrifiadur a roddodd y cwci i chi sy’n galli ei weld.

Os ydych am gael gwybod sut i fynd ati i wneud hyn ar borwr eich ffôn poced, bydd angen i chi gyfeirio ar lawlyfr eich ffôn. Mae rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i optio allan ac atal trydydd partïon rhag casglu unrhyw ddata ynghylch sut rydych chi’n rhyngweithio ar ein gwefan, cyfeiriwch at wefannau’r trydydd partïon o dan sylw.  

Gwrthrychau Lleol a Rennir (cwcis Flash)
Ar rai o’n tudalennau ceir fideos planedig oddi wrth YouTube, sy’n defnyddio rhaglen Adobe Flash Player. I wella profiad y defnyddiwr, mae Gwrthrychau Lleol a Rennir – neu cwcis Flash fel y’u gelwir yn aml – yn cael eu defnyddio i ddarparu nodweddion fel ailddechrau’n awtomatig ac i gadw’ch dewisiadau. Mae cwcis Flash yn cael eu storio ar derfynell y defnyddiwr mewn ffordd debyg i cwcis, ond nid yw’n bosibl eu rheoli ar lefel y porwr yn yr un modd. Sut i ddileu neu analluogi cwcis Flash

Ein polisi ar gwcis